Psalms 26

Gweddi person gonest

Salm Dafydd.

1Achub fy ngham, O Arglwydd,
dw i wedi bod yn onest.
Dw i wedi dy drystio di Arglwydd
bob amser.
2Archwilia fi, Arglwydd; gosod fi ar brawf!
Treiddia i'm meddwl a'm cydwybod.
3Dw i'n gwybod mor ffyddlon wyt ti –
a dyna sydd yn fy ysgogi i fynd ymlaen.
4Dw i ddim yn derbyn cyngor gan bobl sy'n twyllo,
nac yn cymysgu gyda rhai sy'n anonest.
5Dw i'n casáu cwmni dynion drwg,
ac yn gwrthod cyngor pobl felly.
6Dw i'n golchi fy nwylo'n lân,
ac am gerdded o gwmpas dy allor, O Arglwydd.
7Dw i eisiau diolch i ti,
a dweud am y pethau rhyfeddol wnest ti.
8O Arglwydd, dw i'n caru'r deml lle rwyt ti'n byw;
y fan lle mae dy ysblander i'w weld.
9Paid ysgubo fi i ffwrdd gyda phechaduriaid,
na'm lladd gyda'r bobl dreisgar
10sydd bob amser yn cynllwyn rhyw ddrwg,
neu'n barod i gynnig breib.
11Dw i wedi bod yn onest.
Gollwng fi'n rhydd! Bydd yn garedig ata i!
12Dw i'n gwybod fy mod i'n saff.
Bydda i'n addoli'r Arglwydd eto gyda'i bobl.
Copyright information for CYM